Rhif y ddeiseb: P-05-904

Teitl y ddeiseb: Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru.

Ar 17 Gorffennaf 2018, dywedodd Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, "Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas.   Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol. Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.”

Mae syrcas yn ffurf ar gelf ynddo'i hun. Er bod syrcasau wedi'u cysylltu'n gryf â'r defnydd o anifeiliaid yn y gorffennol, mae'n amlwg bod chwaeth y cyhoedd mewn materion o'r fath wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dangosir hyn gan y nifer cynyddol o syrcasau sy'n cynnwys pobl yn unig, ynghyd â llwyddiant y syrcasau hyn. Tra bod y sioeau hyn yn aml yn cael eu perfformio o flaen cynulleidfaoedd llawn heb unrhyw brotestwyr tu allan i'r babell, mae'n deg dweud bod y gwrthwyneb yn wir o ran y syrcasau a'r sioeau teithiol sy'n parhau i ddefnyddio anifeiliaid, hyd yn oed y rhai sy'n defnyddio anifeiliaid nad ydynt wedi'u diffinio fel anifeiliaid gwyllt. 

Mae nifer o wladwriaethau a gwledydd yn gwahardd pob anifail mewn syrcasau a sioeau teithiol. Disgwylir i'r Eidal (sydd â chysylltiad hanesyddol â'r diwydiant syrcas anifeiliaid) wneud hyn flwyddyn nesaf. Mae'r pryderon o ran lles sy'n gysylltiedig â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, fel teithio, llwytho a dadlwytho parhaus a gorfodi anifeiliaid i berfformio, ynghyd ag amgylcheddau cymdeithasol amhriodol ac annaturiol, yn berthnasol i bob anifail a ddefnyddir yn y modd hwn. 

Dylid gwahardd defnyddio anifeiliaid mewn unrhyw sioe deithiol ar gyfer adloniant pur ac i wneud arian i bobl fel menter fasnachol.  Yn anffodus, y llynedd, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y byddai Llywodraeth Cymru yn trwyddedu arddangosfeydd teithiol sy'n cynnwys anifeiliaid. 

 


1.        Y cefndir

Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Ar 8 Gorffennaf, cyflwynodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ('y Gweinidog'), y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)('y Bil') i'r Cynulliad.

Amcan polisi'r Bil yw gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru am resymau moesegol. Mae anifail gwyllt yn cael ei 'ddefnyddio' os yw'r anifail yn 'perfformio' neu'n cael ei 'arddangos'. Ar hyn o bryd, mae dwy syrcas deithiol yn defnyddio anifeiliaid gwyllt yn y DU ac mae’r ddwy yn ymweld â Chymru yn rheolaidd.

Ni fydd Bil Cymru yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid domestig mewn syrcasau teithiol. Ni fydd ychwaith yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill fel 'arddangosfeydd anifeiliaid' eraill (a ddisgrifir isod) gan gynnwys syrcasau sefydlog.

Cymru yw'r wlad ddiweddaraf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Cafodd Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Yr Alban) 2018 ('Deddf yr Alban 2018') Gydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018 a daeth i rym y diwrnod wedyn. Cafodd Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau (Rhif 2) 2019 ('Deddf y DU 2019') Gydsyniad Brenhinol ar 24 Gorffennaf 2019 a bydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2020.

Mae Papur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil yn rhoi’r cefndir.

Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried y Bil (gwaith craffu Cyfnod 1).

Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, mae rhai rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at y ffaith bod y gwaharddiad wedi’i gyfyngu i syrcasau teithiol ac wedi gofyn cwestiynau am foeseg a safonau lles mathau eraill o arddangosfeydd anifeiliaid. Mae rhai wedi dadlau os yw'r gwaharddiad arfaethedig ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol wedi’i seilio ar ystyriaethau moesegol, y dylai hefyd ymestyn i rywogaethau domestig. Mae eraill o’r farn nad yw'r un ddadl foesegol yn berthnasol i anifeiliaid domestig.

 

Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid

Gall arddangosfeydd anifeiliaid arddangos anifeiliaid domestig a rhai gwyllt, a gallant gynnwys arddangosfeydd anifeiliaid anwes egsotig, arddangosfeydd heboga a digwyddiadau ceirw. Fe'u defnyddir ar gyfer ymweliadau addysgol ag ysgolion, digwyddiadau ar thema, partïon, priodasau, dathliadau a digwyddiadau corfforaethol.

Ar 29 Awst 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y fersiwn ddrafft o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid) (Cymru) 2020, ynghyd â’r canllawiau cysylltiedig. Byddai'r Rheoliadau'n cael eu cyflwyno o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Yn ôl y datganiad ysgrifenedig sy’n cyd-fynd a’r Rheoliadau:

Mae'r Rheoliadau drafft yn darparu cynllun trwyddedu ar gyfer pob math o Arddangosfa Anifeiliaid, sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy’n ymweld â Chymru, ac sy'n bodloni meini prawf penodol; mae'n caniatáu cynnal gwiriadau er mwyn sicrhau bod safonau lles da yn cael eu bodloni yn y prif safle ble cedwir yr anifeiliaid, wrth deithio ac yn ystod arddangosfeydd.

Dywed Llywodraeth Cymru mai’r brif egwyddor sy’n sail i'r cynllun trwyddedu yw ‘datblygu agweddau parchus a chyfrifol tuag at anifeiliaid' ac i’r perwyl hwnnw, mae'r Rheoliadau drafft yn cyflwyno gofyniad newydd i arddangosfeydd anifeiliaid trwyddedig 'hyrwyddo addysg i'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o'r rhywogaethau sy'n cael eu cadw'. Mae hyn eisoes yn ofyniad ar gyfer sŵau trwyddedig.

O dan y Rheoliadau drafft, bydd y cynllun trwyddedu yn cynnwys cadw, hyfforddi ac arddangos anifeiliaid yng Nghymru pan fo’r anifeiliaid hynny'n cael eu defnyddio i'w harddangos at ddibenion addysgol neu adloniant.

Nodwch fod testun y ddeiseb yn defnyddio'r derminoleg 'arddangosfeydd teithiol sy'n cynnwys anifeiliaid'. Roedd yr ymgynghoriad gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru yn trafod arddangosfeydd teithiol sy’n cynnwys anifeiliaid (Mobile Animal Exhibits) ond fe ddatblygodd y cwmpas yn ddiweddarach i gynnwys pob math o ‘arddangosfeydd anifeiliaid' (‘Animal Exhibits’) (gan gynnwys arddangosfeydd sefydlog).

I grynhoi, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio gwahanol ddulliau ar gyfer rheoleiddio'r defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau teithiol ac arddangosfeydd anifeiliaid, sef gwaharddiad ar sail foesegol a chynllun trwyddedu ar sail lles anifeiliaid yn y drefn honno.

 

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor Deisebau ar y mater hwn yn amlinellu manylion y Bil a'r cynllun trwyddedu a ddisgrifir uchod. Mae hi'n esbonio cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros ddefnyddio’r gwahanol ddulliau hyn:

Nid yw’r Bil [Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)] yn effeithio ar ddefnyddio anifeiliaid domestig mewn syrcasau teithiol ac nid yw’n rhwystro pobl rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt fel adloniant mewn sefyllfaoedd eraill. Mae sail egwyddorol wahanol i’r gwrthwynebiadau o ran defnyddio anifeiliaid yn y lleoliadau hyn o gymharu â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae gwahaniaethau o ran y math o rywogaethau a gedwir, y cyflwr y’u cedwir a sut y cânt eu defnyddio a’u harddangos.

 

3.     Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fel y nodwyd, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried y Bil ar hyn o bryd. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog ar y Bil ar 18 Gorffennaf yn wreiddiol.

Gofynnodd yr Aelodau i'r Gweinidog am ei barn ar ba mor dderbyniol ydyw, o safbwynt moesegol, i ddefnyddio anifeiliaid domestig mewn syrcasau teithiol. Dywedodd:

So, there are not the same fundamental ethical objections to the use of domesticated animals in travelling circuses as there are to wild animals. You use the example of a horse, The example that I was given […] was in relation to showjumping. So, you could say that it's comparable—what horses do in showjumping to what they would do in a circus. […] I think it appears that showjumping is acceptable to society in a way that the use of wild animals in circuses isn't.

Gofynnodd yr Aelodau i'r Gweinidog am ehangu cwmpas y Bil i gynnwys syrcasau sefydlog. Dywedodd:

So, at the moment, there are no static circuses in Wales. […] That's not to say that, obviously, there couldn't be static circuses in the future, but they're not included in the ethical argument in the way that—. Obviously, with travelling circuses, it's a much weaker argument. So, an environment that's permanent could, arguably, be better adapted for an animal's needs than an environment that's constantly on the move, which obviously is the purpose of this Bill. So, that's the reason why.

Lansiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil dros doriad yr haf a ddaeth i ben ar 23 Awst. Cafwyd 24 o ymatebion ysgrifenedig sydd wedi'u cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor.

Cynhaliodd y Pwyllgor dair sesiwn dystiolaeth lafar ar ôl hynny gydag academyddion, grwpiau lles anifeiliaid a chynrychiolwyr syrcasau (18 a 26 Medi a 2 Hydref).

Yna, cynhaliodd y Pwyllgor ail sesiwn graffu gyda'r Gweinidog ar 10 Hydref. Wrth drafod mathau eraill o arddangosfeydd teithiol sy’n cynnwys anifeiliaid, cyfeiriodd at y cynllun trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid arfaethedig.

Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ar Gyfnod 1 tua diwedd y flwyddyn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.